'Ti' neu 'Chi'

11 replies [Last post]
aledpowell
Offline
Joined: 09/20/2012

Amhosib ydy mynd yn bellach heb gwneud penderfyniad am hyn, dwi'n meddwl.

Well gen i 'chi', ond dwi'n ymwybodol bod nifer o raglenni a gwefannau yn defnyddio 'ti' erbyn hyn ac felly dwi wedi dod i arfer a fo.

Mae'n ymddangos i mi fyddai Twitter yn ffafrio 'ti', ond edrychodd Ifanceinion ar y rhyngwyneb Ffrangeg ddoe a gweld mae 'vous' sy'n cael ei ddefnyddio ynddo, yn hytrach na 'tous'.

Mae fforwm fel hyn yn dda i bobl mynegi barn a thrafod, ond ddim mor addas i gadw cyfrif. Gan nad ydy'n bosib cynnwys pôl piniwn yma, efallai gallwn benodi un ymadrodd i gynrychioli'r dewis rhwng 'ti' a 'chi'? Hwn (http://translate.twttr.com/phrases/4330), er enghraifft?